Genesis 24:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe y clustlws, a'r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi ei ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna ble roedd e, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y fodrwy, a'r breichledau ar arddyrnau ei chwaer, a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca am yr hyn a ddywedodd y gu373?r wrthi, aeth at y gu373?r oedd yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.