Genesis 24:47 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylo hi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ A dyma hi'n ateb, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Felly dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnais iddi, 'Merch pwy wyt ti?' Ac meddai hithau, 'Merch Bethuel fab Nachor a Milca.' Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.