Genesis 24:48 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ymgrymais, ac a addolais yr ARGLWYDD, ac a fendithiais ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fi'n plygu i addoli'r ARGLWYDD. Roeddwn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.