Genesis 24:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD, Duw y nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o du375? fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, 'Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion', bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.