Genesis 25:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi: “Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth. Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd. Bydd un yn gryfach na'r llall, a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi, "Dwy genedl sydd yn dy groth, a gwahenir dau lwyth o'th fru, bydd y naill yn gryfach na'r llall, a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf."