Genesis 25:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn daeth y llall yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw'n Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.