Genesis 25:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed dyma Esau yn codi ar ei draed a cherdded allan. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.