Genesis 25:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a'u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua'r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.