Genesis 26:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth yn y byd ti'n meddwl rwyt ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Beth petai un o'r dynion wedi cysgu hefo hi? Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Abimelech, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom."