Genesis 26:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau gyda gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, "Ni biau'r du373?r." Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.