Genesis 26:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw DUW Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, "Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham."