Genesis 26:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy'r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, digwyddodd Abimelech, brenin y Philistiaid, edrych allan o'r ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.