Genesis 26:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o'i phlegid hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, "Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, 'Fy chwaer yw hi'?" Dywedodd Isaac wrtho, "Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi."