Genesis 27:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a'u dygodd at ei fam: a'i fam a wnaeth fwyd blasus o'r fath a garai ei dad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly aeth, a dod hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi.