Genesis 27:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithio dy enaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei di fy mendithio i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jacob wrth ei dad, "Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi."