Genesis 27:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i'r ARGLWYDD dy DDUW beri iddo ddigwyddo o'm blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Isaac wrth ei fab, "Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?" Atebodd yntau, "Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer."