Genesis 27:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a'th felltithio, a bendigedig a'th fendithio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di, a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen. Byddi'n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen. Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di, ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i bobloedd dy wasanaethu di, ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen; bydd yn Arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam iti. Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio, a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio."