Genesis 27:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, "Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad."