Genesis 27:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a'th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf, ac yn gwasanaethu dy frawd. Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth dy gleddyf y byddi fyw, ac fe wasanaethi dy frawd; ond pan ddoi'n rhydd, fe dorri ei iau oddi ar dy wddf."