Genesis 27:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â'r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, "Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob."