Genesis 27:42 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o'th blegid di, ar fedr dy ladd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti trwy dy ladd di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, "Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd.