Genesis 27:45 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y'th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti i ti gael dod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?"