Genesis 28:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo'r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr yno i gysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.