Genesis 28:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad — gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.