Genesis 29:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau'r pydew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid du373?r i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,