Genesis 29:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr ARGLWYDD: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab arall eto. “Y tro yma dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD,” meddai hi. A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Jwda. Ac wedyn dyma hi'n stopio cael plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, "Y tro hwn moliannaf yr ARGLWYDD." Am hynny galwodd ef Jwda. Yna peidiodd geni plant.