Genesis 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwyteais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi — hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd y dyn, "Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau."