Genesis 3:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarff a'm twyllodd, a bwyta a wneuthum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, "Pam y gwnaethost hyn?" A dywedodd y wraig, "Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau."