Genesis 3:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: "Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.