Genesis 3:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth y wraig: "Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy u373?r, a bydd ef yn llywodraethu arnat."