Genesis 3:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o'th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden roeddwn wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae'r ddaear wedi ei melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth Adda: "Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.