Genesis 3:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth — da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, "Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth."