Genesis 3:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw geriwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.