Genesis 3:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain.