Genesis 30:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd Rachel ei bod hi'n methu cael plant, roedd hi'n genfigennus o'i chwaer. “Dw i'n mynd i farw os wnei di ddim rhoi plant i mi!” meddai hi wrth Jacob.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Rachel nad oedd hi yn geni plant i Jacob, cenfigennodd wrth ei chwaer; a dywedodd wrth Jacob, "Rho blant i mi, neu byddaf farw."