Genesis 30:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, "Rho imi rai o fandragorau dy fab."