Genesis 30:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a'r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arnyn nhw). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y diwrnod hwnnw didolodd Laban y bychod brith a broc, a'r holl eifr brith a broc, pob un gwyn arno, a phob oen du, a'u rhoi yng ngofal ei feibion,