Genesis 30:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai Jacob yn didol yr u373?yn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahn, heb fod gyda phraidd Laban.