Genesis 30:43 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.