Genesis 31:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond DUW eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd i fygwth Jacob.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, 'Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.'