Genesis 31:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyda'r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o'r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a'u lladratasai hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd piau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi eu dwyn nhw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngu373?ydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef." Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.