Genesis 31:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi ei wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna digiodd Jacob ac edliw i Laban, a dweud wrtho, "Beth yw fy nhrosedd? Beth yw fy mhechod, dy fod wedi fy erlid?