Genesis 31:37 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a'th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngu373?ydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau.