Genesis 31:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a'i gwnawn ef yn dda; o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a'r hyn a ladrateid y nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oedd rhai wedi eu lladd gan anifeiliaid gwylltion wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddai anifail wedi ei ysglyfaethu, ni ddygais mohono erioed atat ti, ond derbyniais y golled fy hun; o'm llaw i y gofynnaist iawn am ladrad, prun ai yn y dydd neu yn y nos.