Genesis 31:42 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni buasai fod DUW fy nhad, DUW Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. DUW a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a'th geryddodd di neithiwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di."