Genesis 31:43 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i; a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac i'w meibion hwynt y rhai a esgorasant?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, "Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?