Genesis 31:46 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, "Casglwch gerrig," a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.