Genesis 31:49 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hefyd Mispa, oherwydd dywedodd, "Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd.