Genesis 31:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di, roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedai ef, 'Y brithion fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, 'Y broc fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.