Genesis 32:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n neb, a ddim yn haeddu'r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i'r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi'r afon Iorddonen yma. Bellach mae digon ohonon ni i rannu'n ddau grŵp.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll.